
Cynorthwyydd Dysgu
Yn eisiau erbyn 1af o Fedi 2025
2 x Cynnorthwyydd Dysgu Llawn Amser
Nifer disgyblion ar y gofrestr: 190
Prif Raddfa Cyflog
Hyd y Cytundeb: 2 swydd llawn amser – cytundeb blwyddyn.
Sefydlwyd Ysgol y Lawnt yn 1955 ac fe’i lleolir ym mhentref Rhymni yn sir Caerffili. Mae’n ysgol hapus, gynhwysol a chymunedol ac ymfalchïwn yn y berthynas agos sydd gennym gyda’n rhieni a’r gymuned leol.
Mae Ysgol y Lawnt yn gartref i gymuned ddatblygol o staff addysgu lle byddwch yn cael pob cefnogaeth i ddatblygu yn eich gyrfa. Byddwch yn ymuno a thîm o staff ymroddgar, brwdfrydig ac egnïol, sy’n cydweithio’n agos i sicrhau cyfleoedd cyfrwng Cymraeg cyfoethog i’n disgyblion mewn amrywiaeth eang o ffyrdd.
Gwahoddir ceisiadau gan cynorthwywyr dysgu brwdfrydig ac ymroddgar i gefnogi dysgwyr yn yr ysgol lewyrchus hon. Mi fydd yr ymgeiswyr llwyddiannus:
- Yn hollol gymwys yn y Gymraeg
- yn cynorthwyydd dysgu llawn cymhelliant sy’n gosod disgwyliadau uchel a heriol o ran cyflawniad, ymddygiad a datblygiad sgiliau
- yn gallu defnyddio strategaethau asesu effeithiol er mwyn gwella’r dysgu
- yn cynorthwyydd dysgu sydd yn gynnes, yn ofalgar ac sy'n gwneud dysgu ein plant yn bleserus ac hwylus
- yn defnyddio TGCh yn effeithiol i wella’r dysgu ac addysgu
- yn gallu gweithio'n effeithiol fel aelod o dîm Ysgol cydwybodol a chryf
- yn sefydlu a chynnal perthynas gadarnhaol gyda rhieni a gofalwyr, aelodau o'r Corff Llywodraethol a'r gymuned ehangach
- yn cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau allgyrsiol
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person dewiswch yr atodiad perthnasol o'r rhestr atodiadau.
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Sharon Davies ar 01685 840285.
Cynigir cyfle i’r ymgeiswyr ar y rhestr fer ymweld â’r ysgol.
Ffurflenni cais ar gael i’w lawrlwytho o wefan Eteach neu ar gais trwy’r ysgol
Dylid eu dychwelyd at y Pennaeth:
Mrs Sharon Davies, Ysgol y Lawnt, Surgery Hill, Rhymni, Tredegar, Caerffili, NP22 5LS
Os hoffech fwy o fanylion am y swydd hon neu os am sgwrs anffurfiol cysylltwch â’r Pennaeth – 01685 840285 neu ebostiwch Ysgolylawnt@sch.caerphilly.gov.uk
Dyddiad cau: 14.07.2025
Dyddiad cyfweliad: Wythnos yn dechrau – 17.04.2025
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn cael ei ystyried yn hanfodol i ymgymryd â’r swydd hon. Felly, mae'r swydd yn cael ei hysbysebu yn unol â darpariaethau Adran 38 o Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976.
O dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, mae rhaid i’r holl staff Cymorth Dysgu (sy’n cynnwys y swyddi y sonir amdanynt yma) fod wedi cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg dros Gymru o 1 Ebrill 2016.
Bydd eich cyflogaeth yn dibynnu ar dystiolaeth ddigonol o’ch cofrestriad a’ch cofrestriad parhaol, fel Cynorthwyydd Cymorth Dysgu gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Gellir dod o hyd i wybodaeth am sut i gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg ar y wefan hon https://www.ewc.wales/site/index.php/cy/ neu drwy ffonio 02920 460099. Eich cyfrifoldeb ydi sicrhau eich bod yn cofrestru ac yn parhau i gofrestru yn unol â thermau a thelerau eich cyflogaeth.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Salary range
- £19,746 - £21,066 per year