Search
Athro/ Athrawes Digymwysiedig - Ysgol Gymraeg Cwm Derwen

Athro/ Athrawes Digymwysiedig - Ysgol Gymraeg Cwm Derwen

Caerphilly County Borough Council
locationCaerphilly County Borough, UK
remoteOn-Site
ExpiresExpires: Expiring in less than 2 weeks
Teaching
Full time
£22,685 - £35,875 per year

Athro/ Athrawes Digymwysiedig - Ysgol Gymraeg Cwm Derwen


Llawn Amser - Amser Tymor yn Unig

Contract Tymor Penodol tan 31 Rhagfyr 2027

Cyflog Band 1 £22,685 – Band 6 £35,875

Gwahoddir ceisiadau gan adolygiadau ar gyfer Athro/Athrawes digymwysedig Dosbarth Y Ganolfan (dosbarth arbennig Anghenion Dysgu Ychwanegol). Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus TAR o fewn pedair blynedd.

Mae Corff Llywodraethol yr ysgol yn dangos hon yn awyddus i apwyntio ymarferydd sydd yn dangos y sgiliau rhagorol ar y dosbarth gyda phrofiad helaeth o grantiau gyda dysgwyr ychwanegol gan gynnwys hyrwyddo.

Fe fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dysgu yn ein dosbarth dethol fel rhan o dîm dethol i ddewis o ddysgwyr dysgu/ cymdeithasol.

Cyniga'r swydd yma i'w cyhoeddi

Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus:

  • fod yn frwd, yn ofalgar ac yn gallu sicrhau cyfleoedd datblygiadol, cyfoethog a hwylus i'r holl ddysgwyr,
  • osod disgwyliadau uchaf i'r dysgwyr o ran ymddygiad, cyflawniadau a datblygiad sgiliau,
  • cynnal dysgu ac addysgu o’r safon uchaf i gwrdd ag anghenion ein holl ddysgwyr mewn cydwethrediad â’r athrawes dosbarth,
  • arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth drylwyr o weithio gyda dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol,
  • weithio'n effeithiol fel aelod o dîm ein hysgol
  • arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth gadarn o Gwricwlwm i Gymru a’r fframweithiau sgiliau,
  • dangos safonau uchel wrth ddefnyddio TGCh i gefnogi dysgu,
  • sefydlu a chynnal perthynas gadarnhaol gyda'n rhieni a gofalwyr, aelodau o'n Corff Llywodraethol a'n gymuned ehangach,
  • cyfrannu tuag at a chefnogi holl weithgareddau cwricwlaidd ac allgyrsiol yr ysgol.

Mae Ysgol Gymraeg Cwm Derwen yn ysgol ofalgar a hapus, lle rhoddir blaenoriaeth ar les disgyblion a staff er mwyn sicrhau cyfleodd orau i’n disgyblion. Mae hybu’r Iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig yn allweddol i’n Cwricwlwm. Mae’r gallu i siarad ac ysgrifennu’r Gymraeg yn rhugl yn hanfodol i’r swydd.

Dylid dychwelyd ffurflenni gais at y Pennaeth: Mrs K Matthews, Ysgol Gymraeg Cwm Derwen, Beech Grove, Oakdale, Caerphilly NP12 0JL neu trwy e-bost: ysgolgymraegcwmderwen@sch.caerphilly.gov.uk Am fanylion pellach, ffoniwch 01495 226062

Cyfweliadau: WyD 12/01/26

Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006

Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn cael ei ystyried yn hanfodol i ymgymryd â’r swydd hon. Felly, mae'r swydd yn cael ei hysbysebu yn unol â darpariaethau Adran 38 o Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976.

O dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, mae rhaid i’r holl staff Cymorth Dysgu (sy’n cynnwys y swyddi y sonir amdanynt yma) fod wedi cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg dros Gymru o 1 Ebrill 2016.
Bydd eich cyflogaeth yn dibynnu ar dystiolaeth ddigonol o’ch cofrestriad a’ch cofrestriad parhaol, fel Cynorthwyydd Cymorth Dysgu gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am sut i gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg ar y wefan hon https://www.ewc.wales/site/index.php/cy/ neu drwy ffonio 02920 460099. Eich cyfrifoldeb ydi sicrhau eich bod yn cofrestru ac yn parhau i gofrestru yn unol â thermau a thelerau eich cyflogaeth.

    Salary range

    • £22,685 - £35,875 per year