Search

Teacher – Penllwyn and Penrhyncoch Primary Schools

locationAberystwyth
remoteOn-Site
ExpiresExpires: Expiring in less than 2 weeks
| |
£33,731 - £51,942 per year
Croesewir unrhyw ymgeisydd i gysylltu â’r Pennaeth, Miss Catryn Lawrence, ar 01970 880277 am ragor o wybodaeth.

The following is an advert where the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.

Ffederasiwn Ysgol Penrhyn-coch ac Ysgol Penllwyn.

Dymuna’r Corff Llywodraethu benodi athro/athrawes frwdfrydig ac ymroddgar i ymuno â’n ffederasiwn llwyddiannus a chefnogol o fis Ionawr tan mis Gorffennaf.

Bydd y rôl yn cynnwys addysgu yn Nosbarth Derbyn Ysgol Penrhyn-coch ac mewn un dosbarth arall ar draws y ffederasiwn, gan gefnogi trefniadau sy’n sicrhau amser arweinyddiaeth ar gyfer aelodau’r uwch-dîm rheoli.

Rydym yn chwilio am ymarferydd rhagorol sy’n:

  • Meddu ar allu profedig i gyflwyno addysgu a dysgu o safon uchel ar draws yr ystod gynradd.
  • Dangos disgwyliadau uchel ar gyfer cyflawniad a lles disgyblion.
  • Yn ymrwymedig i gydweithio fel rhan o dîm cryf ar draws y ddau safle ysgol.
  • Yn gallu meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda disgyblion, staff, rhieni a’r gymuned ehangach.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:

  • Ysbrydoli disgyblion i gyflawni eu gorau mewn amgylchedd meithringar a chynhwysol.
  • Cyfrannu at y cwricwlwm ehangach a darpariaeth allgyrsiol y ffederasiwn.
  • Cymryd rhan weithredol ym mywyd y ffederasiwn a’i bartneriaethau cymunedol.

Byddai gallu chwarae’r piano neu gyfrannu at fywyd cerddorol yr ysgol yn fantais, ond nid yw’n hanfodol.

Rydym yn cynnig:

  • Cymuned ysgol gynnes a chefnogol.
  • Disgyblion brwdfrydig ac ymddwyn yn dda.
  • Cyfleoedd dysgu proffesiynol eang i gefnogi datblygiad gyrfa.
  • Ymrwymiad cryf i les staff a chydweithio.

Mae hon yn gyfle cyffrous i ymuno â ffederasiwn blaengar sy’n ymroddedig i ddarparu profiadau cyfoethog ac ysgogol i bob dysgwr.

Cysylltwch â ni

Croesewir unrhyw ymgeisydd i gysylltu â’r Pennaeth, Miss Catryn Lawrence, ar 01970 880277 am ragor o wybodaeth.

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

What we offer

  • Work-life balance
  • Lifestyle savings scheme
  • Generous employer pension scheme
  • Cycle to work scheme
  • Learning and development

Salary range

  • £33,731 - £51,942 per year