Search
Swyddog Datblygu Cymunedol Ardal Blaenau Gwent - Lleol Cymru

Swyddog Datblygu Cymunedol Ardal Blaenau Gwent - Lleol Cymru

locationCwmbran
remoteOn-Site
ExpiresExpires: Expiring in less than 3 weeks
Dychwelwch y ffurflen trwy ebost os gwelwch yn dda erbyn 5pm, Dydd Llun, 30 o Dachwedd 2026. Cyswllt: Sioned Davies, sioned@menterbgtm.cymru

Swyddog Datblygu Cymunedol - Ardal Blaenau Gwent.

Ydych chi’n hoffi trefnu gweithgareddau ac yn caru’r Gymraeg?

Mae Sefydliad Corfforedig Elusennol Menter Iaith BGTM (rhif elusennol 1181104) yn chwilio am berson arbennig i adeiladu ar y gwaith o hyrwyddo a datblygu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn lleol.

Cefndir

Nod y Mentrau Iaith ydy hybu a hyrwyddo’r Gymraeg ar draws Cymru. Sefydlwyd y Fenter Iaith gyntaf yng Nghwm Gwendraeth yn 1991, ac erbyn hyn mae 22 Menter Iaith yn gwasanaethu pob rhan o Gymru. Wedi tyfu o awydd a dyheadau pobl leol y mae’r Mentrau Iaith, er mwyn hyrwyddo defnydd y Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd yn eu cymunedau. Mae’r Mentrau Iaith yn un o bartneriaid allweddol Llywodraeth Cymru ac yn gweithredu ar lawr gwlad i wireddu amcanion Cymraeg 2050: Strategaeth y Gymraeg – sydd yn nodi sut bydd Llywodraeth Cymru yn cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050. Mae pob Menter Iaith yn gweithredu mewn ffordd unigryw yn ddibynnol ar anghenion lleol.

Disgrifiad Swydd/Prif Gyfrifoldebau

  • Darparu cyfleoedd i drigolion y sir gael mynediad i ddigwyddiadau ieithyddol, diwylliannol a chelfyddydol.
  • Grymuso unigolion, grwpiau a chymunedau i ddefnyddio’r iaith.
  • Asesu anghenion cymunedau Blaenau Gwent o safbwynt gweithgareddau cyfrwng Cymraeg drwy broses o ymgynghori eang.
  • Meithrin a datblygu cysylltiadau agos gyda grwpiau cymunedol, mudiadau gwirfoddol a phartneriaid eraill (e.e. Cymraeg i Oedolion Gwent, Mudiad Meithrin) gan gydlynu a threfnu gweithgareddau blaengar a deniadol a’u gwerthuso’n gyson.
  • Gweithio gyda phlant a phobl o bob oedran.
  • Datblygu prosiectau penodol a flaenoriaethwyd yng nghais a thargedau’r Llywodraeth.
  • Cyfrannu at brosesau gwerthuso a monitro’r Fenter.
  • Paratoi ceisiadau am nawdd ar adegau.

Manyleb person

  • Sgiliau Iaith Gymraeg da ar lafar ac yn ysgrifenedig yn hanfodol.
  • Dealltwriaeth o ddiwylliant ac anghenion ieithyddol Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy.
  • Profiad o weithio gyda phlant ac oedolion a threfnu amrywiol o weithgareddau ar eu cyfer.
  • Y gallu i gyfathrebu’n glir yn Gymraeg a Saesneg ar bob lefel a gweithio gydag ystod eang o oedrannau.
  • Hyderus pan yn gweithio’n annibynnol ac yn dangos blaengaredd.
  • Profiad o greu ac annog syniadau newydd (arloesol).
  • Sgiliau safonol o ddefnyddio TG / cyfryngau cymdeithasol.
  • DBS cyfredol.
  • Trwydded yrru gyfredol a char.

Telerau’r Swydd

Cyflog: £25,000

Telir cyfraniad pensiwn cyflogwr (8%) yn ychwanegol.

Costau Teithio

Telir costau teithio yn ôl graddfa CThEM.

Oriau Gwaith

37.5 awr yr wythnos. Bydd hon yn swydd llawn amser.

Gwyliau

28 diwrnod y flwyddyn (+2 ddydd ychwanegol ar gyfer y Nadolig).

Hyd y Cytundeb

Parhaol. Bydd angen cwblhau cyfnod prawf o dri mis yn llwyddiannus.

Strwythur Rheoli

Byddwch yn gweithio o dan gyfarwyddyd Prif Swyddog ac yn atebol i fwrdd Ymddiriedolwyr y Fenter.

Lleoliad swyddfa’r Fenter

Ystafell L4 Alder Suite, Tŷ Mamhilad C, Llawr Cyntaf Gogledd, Ystad Parc Mamhilad, Pontypŵl, NP4 0HZ.

Bydd disgwyl i’r ymgeiswyr llwyddiannus weithio mewn swyddfeydd ledled y siroedd ar adegau yn ogystal â’r posibilrwydd o weithio o gartref.

Dyddiad Cau: 30 o Dachwedd 2026

Cyswllt: Sioned Davies, sioned@menterbgtm.cymru