Search
Receptionist

Receptionist

locationAberaeron
remoteOn-Site
ExpiresExpires: Expiring in 6 days
| |
£26,016 per year
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Marie Woodling ar WoodlingM8@penweddig.ceredigion.sch.uk

The following is an advert where the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.

CEFNIR

Mae’r ysgol yn chwilio am berson brwdfrydig ac egnïol i ymgymryd â swydd Derbynydd. Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus chwarae rhan weithredol i hyrwyddo nodau ac amcanion yr ysgol o Gymreictod, Parch ac Ymdrech.

TASGAU PENODOL

Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus gynorthwyo gyda’r dyletswyddau canlynol:

  • Croesawu a chofnodi ymwelwyr i’r ysgol
  • Ateb a chymryd negeseuon/throsglwyddo galwadau ffôn
  • Cynorthwyo/ymateb i ymholiadau wrth y dderbynfa
  • Cynorthwyo gyda’r gwaith dyddlygu
  • Dosbarthu post i aelodau staff yn eu tyllau post
  • Bod yn gyswllt rhwng y cymhorthydd cyntaf a’r ystafell feddygol gan hybsysu’r Uwch Dim Arwain o anafiadau/salwch
  • Cynorthwyo gyda’r broses o gynhyrchu adroddiadau disgyblion ac adroddiadau’r ysgol
  • Cymorth i’r Rheolwr Busnes gyda’r gwaith o drefnu teithiau a digwyddiadau’r ysgol, a phrosesu cyllidol megis codi archebion ar Procurement a mewnbynnu anfonebau ar Financials
  • Cynorthwyo/cysgodir’i Swyddog Presenoldeb gyda galwadau dydd cyntaf
  • Cynorthwyo gyda gwaith gweinyddol Arweinydd Cynnydd & Lles Bl.7 a Chyfnod Allweddol 3
  • Cymorth gweinyddol yn ôl cais rhesymol y Pennaeth a’r Rheolwr Busnes

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Marie Woodling ar WoodlingM8@penweddig.ceredigion.sch.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch.

Sylwch na fydd euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio

Salary range

  • £26,016 per year