Search

Lefel 2

locationPort Talbot
remoteOn-Site
ExpiresExpires: Expiring in 6 days
| |
£26,016 - £26,427 per year
Am becyn cais ac am wybodaeth ynglyn â sut i gyflwyno eich cais, ewch i www.npt.gov.uk/jobs

SWYDD CYNORTHWY-YDD ADDYSGU LEFEL 2

Dros Dro- 27.5 + 2.5 (dyletswydd cinio) awr yr wythnos (39 wythnos y flwyddyn)

I ddechrau - Cyn gynted â phosibl.

Mae’r Corff Llywodraethu yn awyddus i benodi unigolyn profiadol, brwdfrydig a dibynadwy i ymuno â thim yr ysgol hapus a llwyddiannus hon.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio o dan gyfarwyddyd ac arweiniad y staff addysgu a staff uwch i gefnogi’r dysgu ar gyfer plant a chynnig cefnogaeth gyffredinol i’r staff a disgyblion.

Mae'r swydd hon yn amodol ar Ddatgeliad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Plant)

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwbl ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymroddiad hwn. Mae gan ein hysgolion yr un ymroddiad i sicrhau bod ein holl blant a phobl ifanc yn cael eu diogelu a'u hamddiffyn a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles.

Wrth wraidd y broses recriwtio ar gyfer y swydd hon bydd asesiad recriwtio mwy diogel trylwyr i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn.

Swydd Cynorthwy-ydd Addysgu Lefel 2

Cyflog: Gradd 3, SCP 4 - 5

Cyflog: £26,016 - £26,427 pro rata (yn gymesur â'r oriau a'r wythnosau a weithir)

Swydd Dyletswydd Cinio

Cyflog: Gradd 1, SCP 3

Cyflog: £1,730 y flwyddyn

Mae'r hysbyseb uchod ar gyfer Cynorthwyydd Addysgu dros dro yn YGG Rhosafan, ac mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Salary range

  • £26,016 - £26,427 per year