Search

Athro/Athrawes Uwchradd - CC4 - Ysgol Caer Elen

remoteOn-Site
ExpiresExpires: Expiring in less than 2 weeks
| |
£34,912 - £53,760 per year
Os hoffech drafod cynnwys y swydd hon ymhellach, yna cysylltwch â’r Pennaeth, Mr Dafydd Hughes, trwy e-bost ar swyddfa@ysgolcaerelen.cymru neu trwy ffonio 01437 808470.

Athro/Athrawes Uwchradd - Cyfnod Penodol tan 31.12.2027

Mae Corff Llywodraethol Ysgol Caer Elen yn chwilio am athro/athrawes uwchradd talentog, brwdfrydig a chymwys i ymgymryd â’r swydd hon. Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn gyfrifol am gyflwyno amryw o bynciau yng Ngham Cynnydd 4 (Blynyddoedd 7, 8 a 9). Edrychwn am unigolyn egnïol a fydd yn barod i gyfrannu’n llawn at safonau academaidd a bywyd allgyrsiol yr ysgol.

Cytundeb dros dro, llawn amser yn y lle cyntaf yw’r swydd hon a disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau o’r 4ydd o Ionawr 2027.

Ysgol pob oed 3-16 cyntaf cyfrwng Cymraeg Sir Benfro yw Ysgol Caer Elen sydd yn cynnig cyfleusterau rhagorol. Mae ein haddysgeg a’r ethos dysgu holistaidd yn galluogi ein disgyblion i gyfranogi a datblygu mewn amgylchedd ysgogol, hapus a diogel.

Os hoffech drafod cynnwys y swydd hon ymhellach, yna cysylltwch â’r Pennaeth, Mr Dafydd Hughes, trwy e-bost ar swyddfa@ysgolcaerelen.cymru neu trwy ffonio 01437 808470.

Y dyddiad cau ar gyfer y swydd yw dydd Llun, Tachwedd 30ain 2026.

Fideo Addysgu Sir Benfro: Fideo - Cyngor Sir Penfro

Buddion i Weithwyr
Mae ein buddion i weithwyr wedi'u cynllunio i helpu i fuddsoddi yn eich dyfodol ac maent yn ychwanegol at fyw a gweithio yn Sir Benfro, un o'r siroedd mwyaf prydferth a dymunol yn y DU.

Mae gwefan Ymweld â Sir Benfro https://www.visitpembrokeshire.com/cy-gb yn ffynhonnell wybodaeth ardderchog, ac mae'n arddangos yr amrywiaeth eang o weithgareddau, amwynderau ac anturiaethau sy'n aros amdanoch.

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.

Gwiriadau Cyflogaeth
Mae’r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.

Diogelu
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy’n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â’r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae’r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu’r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p’un a ydynt yn gweithio i’r Cyngor neu’n gweithio ar ran y Cyngor.

Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.

Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau’r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae’r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.

Salary range

  • £34,912 - £53,760 per year