Search

Athro - Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd

locationBettws
remoteOn-Site
ExpiresExpires: Expiring in less than 3 weeks
|

Dros dro - I gychwyn Ionawr 2027

Mae Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd yn dymuno penodi athro neu athrawes llawn cymhelliant, egni a brwdfrydedd i ymuno â'n tîm ymroddgar, arloesol a chreadigol. Rydym yn ysgol Gymraeg gynhwysol a blaengar sy'n ymfalchïo mewn darparu amgylchedd dysgu ysgogol, gofalgar a maethlon sy'n dathlu unigoliaeth pob plentyn.

Rydym yn chwilio am ymarferydd rhagorol sy'n:

  • Meddu ar gymhwyster addysgu perthnasol ac wedi cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
  • Yn rhugl yn y Gymraeg.
  • Â phrofiad diweddar o addysgu yn y Cyfnod Cynradd.
  • Yn meddu ar ddealltwriaeth gadarn o'r Cwricwlwm i Gymru ac arferion addysgu effeithiol.
  • Yn gallu creu amgylchedd dysgu hapus, heriol ac effeithiol.
  • Yn gwerthfawrogi gweithio mewn partneriaeth â disgyblion, rhieni, staff a'r gymuned ehangach.
  • Yn gallu gweithio'n hyblyg fel rhan o dîm a chyfrannu'n llawn at fywyd yr ysgol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:

  • Cynllunio a darparu profiadau dysgu cyfoes ac ysgogol.
  • Monitro, asesu a chefnogi cynnydd pob dysgwr.
  • Gosod disgwyliadau uchel o ran ymddygiad, cyflawniad a lles.
  • Rheoli a chefnogi staff cymorth yn effeithiol.
  • Cyfrannu at weithgareddau allgyrsiol a datblygiad parhaus yr ysgol.
  • Chwarae rhan lawn ym mywyd cymuned yr ysgol a hyrwyddo ein hethos a'n gweledigaeth.

Mae hwn yn gyfle gwych i ymuno ag ysgol sy'n rhoi lles, cynnydd a chyflawniad pob plentyn wrth galon popeth a wnawn. Os ydych yn addysgu gyda angerdd, creadigrwydd ac uchelgais, byddem wrth ein bodd yn derbyn eich cais.

Mae'n ofyniad hanfodol eich bod yn gallu sgwrsio ac ymateb i ohebiaeth yn Gymraeg, gyda hyder ac yn rhwydd.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 09 Rhagfyr 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 10 Rhagfyr 2026
Arsyllu gwersi: 16 Rhagfyr 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 17 Rhagfyr 2026